CLOUDS. Harp Quartet
Ffurfiwyd pedwarawd telyn CLOUDS ym 2008 yn y cyfnod pan oedd Elfair Grug Dyer, Rebecca Mills, Esther Swift ac Angelina Warburton yn fyfyrwyr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion, RNCM, o dan hyfforddiant y delynores o Capel Bangor, Eira Lynn Jones. Cafodd y bedair gyfleoedd i berfformio gyda’i gilydd drwy yr RNCM ar sawl achlysur a hynny mewn nifer o leoliadau arwyddocaol yn cynnwys gwahoddiad i Ŵyl Cerddoriaeth Newydd Huddersfield 2007 i berfformio gwaith newydd Catherine Kontz, ‘Anthill ‘; cyngerdd i ddathlu gwaith John Cage yn Gateshead a chyngerdd difyr wedi’i leoli yng nghysgod deinosor yn y Natural History Museum, Llundain.
Mae’r pedwarawd telyn CLOUDS wedi datblygu o nerth i nerth ac erbyn hyn wedi cyhoeddi dwy gryno ddisg – Clouds a Water. Un o’r aelodau, Esther Swift sy’n cyfansoddi ar gyfer CLOUDS a hynny mewn dull diddorol ac unigryw sy’n seiliedig ar ei chefndir gwerinol a’i dawn i fyrfyfyrio. Mae CLOUDS wedi teithio ar hyd a lled Prydain yn lansio eu cryno ddisgiau ac mae’r perfformiadau hynny yn cynnwys cyngherddau yn yr RMCM, Cadeirlan St. Giles, Oriel Whitechapel, Llundain a sawl llwyfan yn yr Alban. Yn dilyn llwyddiant eu taith gyntaf ym 2011, derbyniodd CLOUDS wahoddiad i berfformio eu cerddoriaeth unigryw yn y Bridgewater Hall, Manceinion.
Mae’r bedair aelod yn delynorion proffesiynol yn gweithio fel unawdwyr, chwaraewyr cerddoriaeth siambr a cherddorfaol ac wedi ymddangos ar lwyfanau Cadogan Hall, y Barbican, Royal Albert Hall a Neuadd Dewi Sant Caerdydd. Cysylltir hwy â sawl cerddorfa yn cynnwys Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydain, Cerddorfa Symphony yr RNCM, Cerddorfa Symphony Coleg Chetham, Manchester Camerata a Ορχήστρα των Χρωμάτων (Athens). Mae Elfair Grug, y delynores o Gymru (Mynytho, Llŷn) newydd gwblhau cwrs Gradd Meistr yn yr RNCM ac wedi cael ei derbyn i weithio ar gynllun Live Music Now. Teithio’r byd a wna Rebecca yn gweithio fel telynores ar longau mordaith cwmni Cunard, Y Frenhines Elisabeth & llong Brehines Mary II. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Esther wedi perfformio ym mhedwar ban byd gyda chynllun Routes to Roots fel rhan o’r ddeuawd gwerinol Twelfth Day – prosiect sy’n eu gwahodd i bedwar cyfandir yn cyflwyno traddodiadau gwerinol i amrywiaeth o gerddorion brodorol. Cartref Angelina ar hyn o bryd yw Manceinion ac mae’n gweithio fel telynores broffesiynol yn perfformio gyda’r National Festival Orchestra a’r Festival Number Six Ensemble.
http://www.cloudsharpquartet.com
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â CLOUDS cysylltwch â: cloudsharpquartet@gmail.com
Gallwch brynu cryno ddisgiau CLOUDS ar-lein:
Clouds: http://www.cloudsandharps.bigcartel.com/product/clouds
Water: http://www.cloudsandharps.bigcartel.com/product/water
Dilynwch CLOUDS ar:
facebook: https://www.facebook.com/cloudsharpquartet
twitter: https://twitter.com/CLOUDSandHARPS
youtube: http://www.youtube.com/user/cloudsandharps/videos