Elfair A ….
Mae gweithio gyda cherddorion eraill yn bwysig iawn i Elfair, mae hi wrth ei bodd bod yng nghwmni cerddorion eraill sydd yn ei hysbrydoli.
Rhoddwyd aelodau CLOUDS yn y gerddorfa gyda’i gilydd yn y coleg cerdd i berfformio Symphonie Fantastique gan Berlioz (hoff ddarn cerddorfaol Elfair). Roedd y bedair wrth ei boddau yn ymarfer gyda’i gilydd, a fe ddatblygodd CLOUDS yn sydyn iawn!
Gweithiodd Helen Wilson ac Elfair gyda’i gilydd yn yr RNCM, a datblygodd hyn i’w deuawd ffliwt a thelyn.
Pan symudodd chwaer Elfair, Rhiain Awel, i Fanceinion – roedd yn naturiol iddynt ymchwilio i repertoire ensemble telyn gyda’i gilydd!
CLOUDS
Dwyres
Mistral Duo