Mistral Duo. Flute & Harp Duo
Ffurfiwyd y ddeuwad ffliwt a thelyn Mistral (Elfair Grug a Helen Wilson) yn Medi 2010 yn yr RNCM, Manceinion. Mae’r ddeuwad wedi perfformio ar hyd a lled y wlad ac yn Haf 2011 hwy a enillodd y marc uchaf yn yr arholiadau Cerddoriaeth Siambr yn yr RNCM am eu perfformiad o Naiades gan William Alwyn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf maent wedi perfformio datganiadau mewn nifer o leoliadau gan gynnwys Prifysgol Salford, The Pavilion Arts Centre yn Buxton a Llyfrgell John Rylands ym Manceinion. Yn 2012 perfformiodd Elfair a Helen Consierto i Ffliwt a Thelyn gan Mozart gyda Liverpool Mozart Orchestra. Mae y Mistral Duo ar gael ar gyfer datganiadau, cyngerddau nos, priodasau a digwyddiadau ar hyd a lled y wlad. Cysylltwch gyda Elfair am fwy o wybodaeth.
“….reported that your presentation and communication was ‘absolutely spot-on!’ The choice of music was ‘excellent with great variety’; comments from the audience included ‘the best concert so far this season’ and the ‘the best Christmas Tree Festival concert ever!’” – Feedback from the RNCM External Engagements Office following a Lunchtime Concert at Alderley Edge Methodist Church in December, 2013.
“Andy Scott Flute and Harp Sonata – Outstanding!” – Petr Prause, Artistic Director, RNCM, May 2012.