Yn ddiweddar dychwelodd y delynores Elfair Grug Dyer o Wlad Thai i barhau ar ei gyrfa fel telynores broffesiynol ym Mhrydain. Bu Elfair yn gweithio dramor am ddwy flynedd yn dysgu’r delyn mewn canolfan delyn arbennig sydd yn cael ei redeg gan aelod o’r teulu Brenhinol Thai. Yn ystod ei chyfnod yng ngwald Thai perfformiodd yn rheolaidd yn Bangkok a pharatoi disgyblion llwyddiannus i berfformio a chystadlu mewn gwyliau telyn rhyngwladaol yn Asia.
Cwblhaodd Elfair Radd Meistr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion a hynny ddwy flynedd ar ôl ennill Gradd BMus Dosbarth Cyntaf ym 2011. Derbyniwyd Elfair i astudio Cerddoriaeth yn yr RNCM gyda chymorth a chefnogaeth ysgoloriaeth lawn gan yr ABRSM. Bu iddi elwa ymhellach o’r ABRSM oherwydd yn y flwyddyn 2011 dyfarnwyd iddi Bwrsari Macklin a roddir i fyfyrwyr dawnus ac arbennig i’w cynorthwyo’n ariannol tuag at sefydlu gyrfa broffesiynol. Ym Mehefin 2012 a 2013 dewisiwyd Elfair fel un o’r 12 unawdydd i berfformio ym mhenwythnos Medal Aur yr RNCM ac yn 2012, cyflwynodd ddatganiad a oedd yn rhaglen awr o hyd yn croniclo hanes a datblygiad y delyn yng Nghymru. Perfformio yn y gystadleuaeth hon yw’r fraint a roddir gan y coleg i’w perfformwyr mwyaf disglair. Cychwynodd ganu’r delyn yn 8 mlwydd oed ac y mae ganddi ddau ddiploma y bwrdd arholi ABRSM: DipABRSM ac LRSM. Llwyddodd fel rhan o‘i chwrs MMus i gael ei derbyn ar gynllun sy’n cynnig profiad gyda Cherddorfa Philhamornic y BBC gan ennill clod a chanmoliaeth drwy gyd-weithio â cherddorion proffesiynol.
Brodor o Fynytho, Llŷn yw Elfair ac y mae’n enw cyfarwydd yn y byd eisteddfodol ers yn ifanc iawn a phrofodd sawl llwyddiant yn flynyddol. Ym 2008 enillodd y brif gystadleuaeth i Offerynnwyr o dan 30 oed yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen – Main Instrumentalists of 2008. Yn ddiweddar cipiodd y brif wobr yng Ngŵyl Cerdd Dant Sir Conwy a gwobr ariannol arbennig er cof am y diweddar Elin Jones, yn rhoddedig gan ei brawd Yr Arglwydd Elis-Thomas o Nant Conwy; ac enillodd yr ail wobr yng nghystadleuaeth Gŵyl Pencerdd Gwalia 2013 i ddathlu canmlwyddiant y telynor John Thomas. Elfair oedd enillydd Ysgoloriaeth Nansi Richards (Telynores Maldwyn) 2013 ac enillodd yn ogystal gydtadleuaeth y Rhuban Glas Offerynnol dros 19 oed Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r cylch a derbyn Ysgoloriaeth Peggy a Maldwyn Hughes.
Astudiodd Elfair yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Manceinion gydag Eira Lynn Jones ac y mae’n gyn-ddisgybl i’r delynores Elinor Bennett yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon. Yn ystod ei harddegau cynnar roedd yn aelod o Gerddorfa Ieuenctid Prydain am dair blynedd a chafodd gyfle i berfformio ar lwyfan Brenhinol Neuadd Albert yn ystod tymor y Proms. Yn y flwyddyn 2008 roedd yn un o’r 60 o delynorion a berfformiodd yn nathliadau penblwydd y Tywysog Charles yn 60 oed. Cafodd y fraint hefyd yn 2009 o dderbyn gwahoddiad i berfformio fel unawdydd yng nghyngerdd dathlu penblwydd yr ABRSM yn 120 oed a gynhaliwyd yn Cadogan Hall, Llundain. Ym 2010 dewisiwyd Elfair i gymeryd rhan yng nghyfres Cyfle Cothi ar Radio Cymru pryd y derbyniodd wersi gan y delynores Catrin Finch a pherfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd. Yn ogystal â chwarae gyda Manchester Camerata yng Ngorffennaf 2011, teithiodd Elfair gyda’r pedwarawd telyn CLOUDS yn cyflwyno eu cryno ddisg gyntaf a pherfformio ddwywaith yn y Bridgewater Hall, Manceinion.
Mae Elfair eisioes wedi cychwyn ar yrfa broffesiynol fel unawdydd yn gweithio ym mhob cwr o’r wlad. Yn 2012 perfformiodd dair consierto sef Dances gan Debussy gyda Cherddorfa Llinynnol yng Ngwyl Cerddoriaeth Siambr yr RNCM; Consierto i’r Delyn gan William Mathias gyda New Sinfonia a Consierto i’r Ffliwt a Thelyn gan Mozart gyda’r Liverpool Mozart Orchestra. Yn dilyn cwblhau ei gradd Meistr derbyniwyd Elfair ar gynllun Live Music Now ac y mae’n perfformio’n gyson o amgylch Gogledd Orllewin Lloegr a Chymru. Yn ystod 2013 mae Elfair wedi teithio Prydain yn lansio ail gryno ddisg y pedwarawd telyn CLOUDS. Un o uchafbwyntiau Elfair yn ystod 2014, yn dilyn clyweliad, oedd rhoi cyngerdd unawdol yn y Bridgewater Hall fel rhan o gyfres o gynherddau adnabyddus The Manchester Mid-days Concert Society.