Elfair Grug
Elfair Grug / Harpist Virtuoso
Award-winning Welsh Concert Harpist - changing the way audiences perceive the harp.
+44 778 978 3160
Manchester
Elfair Grug Dysgu

Dysgu.

14315850_1797986337152712_2129074380_o
Mae Elfair yn athrawes ymroddedig ac ysbrydoledig sy’n mwynhau dysgu disgyblion o bob oed a phob lefel. Yn 2014 gwahoddwyd Elfair gan aelod o’r teulu Brenhinol Thai i ddysgu’r delyn yng Nghanolfan Delyn Tamnak Prathom yn Bangkok, canolfan wedi ei efeillio gyda Chanolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon. Yno, fe wnaeth Elfair baratoi disgyblion llwyddiannus i berfformio a chystadlu mewn gwyliau telyn rhyngwladaol yn Asia. Ym mis Mehefin 2013 cymerodd Elfair swydd mamolaeth fel athrawes delyn mewn tair ysgol fonedd yn ardal Manceinion ac yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig Gradd Meistr cychwynodd Elfair waith fel is-diwtor telyn yn Ysgol Iau yr RNCM. Mae’n athrawes biano brofiadol ac mae’n paratoi disgyblion telyn i lwyddo yn yr arholiadau’r bwrdd arholi ABRSM.