Elfair Grug
Elfair Grug / Harpist Virtuoso
Award-winning Welsh Concert Harpist - changing the way audiences perceive the harp.
+44 778 978 3160
Manchester
Elfair Grug Dwyres

Dwyres Harp Duo

Perfformiodd y ddwy chwaer, Elfair a Rhiain am y tro cyntaf fel deuawd telyn yn y flwyddyn 2012 yng nghystadleuaeth Deuawd Offerynol Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg a chipio’r wobr gyntaf. Ysgogodd y liwyddiant i’r ddwy benderfynu parhau i berfformio fel deuawd telyn a ffurfio Dwyres. Mae’r ddwy yn mwynhau perfformio ac wedi diddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad ac y mae’r ddealltwriaeth gerddorol rhyngddynt yn amlwg pan gyflwynir ganddynt amrywiaeth o gerddoriaeth glasurol.
Er mwyn ymholi ymhellach ynglŷn â Dwyres gellir cysylltu gydag Elfair.
 
 

Bywgraffiad

Rhiain Awel Dyer

Mae’r delynores Rhiain Awel Dyer yn astudio gradd Meistr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda’r delynores rhyngwladol Caryl Thomas ar ôl graddio o Goleg Cerdd Brenhinol y Gogledd gyda chefnogeath ysgoloriaeth gan y coleg. Roedd yn ddisgybl i Eira Lynn Jones ym Manceinion a cyn hynny bu’n astudio gyda Elinor Bennett am bedair blynedd yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ble’r enillodd y wobr am y disgybl gorau. Yn frodor o Mynytho yng nghalon Pen Llŷn, mae Rhiain yn gyfarwydd â chystadlu mewn Eisteddfodau a gwyliau cenedlaethol ac wedi ennill y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Gerdd Dant. Mae gan Rhiain ddiploma ABRSM ac LRSM a derbyniodd wobr y Fusiliers Cymreig am y perfformiad gorau o ddarn Cymreig yn CBCDC y llynedd.
Am bedair blynedd bu Rhiain yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a threuliodd ddwy flynedd fel prif delynores y gerddorfa. Yn 2013 cafodd y profiad o deithio i’r Almaen gyda’r gerddorfa a pherfformio mewn neuaddau enwog gan gynnwys y Konzerthaus ym Merlin fel rhan o’r Ŵyl Young Euro Classics ac yng Nghadeirlan Brandenburg. Ar y cwrs eleni derbyniodd Rhiain Y Wobr Taliesin am ei chyfraniad i’r adran delyn. Ym mis Hydref cafodd Rhiain y fraint o fod yn un o hanner cant o aelodau y Gerddorfa Ieuenctid i berfformio ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn eu cyngerdd Calan Gaeaf yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Profiad bythgofiadwy i Rhiain oedd cael chwarae deuawd gyda’r cyn-delynores frenhinol Catrin Finch yng Nghŵyl Delynau Caernarfon 2012. Yn yr un Ŵyl yn 2015 perfformiodd ddatganiad unawdol a chafodd hefyd gyfle i berfformio yn y cyngerdd nos. Ym mis Tachwedd 2016 perfformiodd Rhiain Introduction and Allegro gan Ravel yn Neuadd Gyngerdd Dora Stoutzker a bydd yn perfformio Spider’s Web gan Paul Patterson yn yr un neuadd ac yn Holywell Lundain ym mis Mawrth eleni.